Lleoliad:
Fideogynhadledd drwy Zoom
Dyddiad: Dydd Iau, 20 Hydref 2022
Amser:
09.30 -
10.10
------
Categori |
Enwau |
Aelodau o’r Senedd: |
Peredur Owen Griffiths AS (Cadeirydd) Peter Fox AS Mike Hedges AS Rhianon Passmore AS |
Staff y Pwyllgor: |
Owain Roberts (Clerc) Leanne Hatcher (Ail Glerc) Mike Lewis (Dirprwy Glerc) Martin Jennings (Ymchwilydd) Owen Holzinger (Ymchwilydd) Samiwel Davies (Cynghorydd Cyfreithiol) |
Yn ei gyfarfod ar 12 Hydref, cytunodd y Pwyllgor ar gynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 (ix) i wahardd y cyhoedd o'r cyfarfod a gynhelir heddiw.
Cofrestru (09.15-09.30)
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i gyfarfod rhithwir y Pwyllgor Cyllid.
2 Craffu ar Gyllideb Ddrafft Comisiwn y Senedd ar gyfer 2023-24: Trafod yr adroddiad drafft
2.1 Trafododd y Pwyllgor yr adroddiad drafft a chytunwyd arno gyda mân newidiadau.
3 Trafod Rheoliadau Treth Trafodiadau Tir (Bandiau Treth a Chyfraddau Treth) (Cymru) (Diwygio) 2022
3.1 Trafododd y Pwyllgor Reoliadau Treth Trafodiadau Tir (Bandiau Treth a Chyfraddau Treth) (Cymru) (Diwygio) 2022 a chytunwyd i gyflwyno adroddiad.
4 Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru - Craffu ar Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon 2021-22, a’r Amcangyfrif ar gyfer 2023-24: Ystyried amcangyfrif diwygiedig
4.1 Trafododd y Pwyllgor yr amcangyfrif diwygiedig gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru.